Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
22 Mehefin 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12879
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd cwestiynau 1, 2 a 4 - 10. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 14.56
Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am - Cyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c800-1800 gan Dr Daniel Huws
Gwnaeth Darren Millar ddatganiad am - Wythnos y Lluoedd Arfog (20-26 Mehefin)
Gwnaeth Peter Fox ddatganiad am - Diwrnod Ymwybyddiaeth Clefyd Niwronau Motor (21 Mehefin)
5 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd Adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9
Dechreuodd yr eitem am 15.01
NDM8034 Vikki Howells (Cwm Cynon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 15 Mehefin 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Grymuso cymunedau
Dechreuodd yr eitem am 15.05
NNDM8018 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Cymru'n gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd yn rhedeg asedau sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt.
2. Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae grwpiau cymunedol wedi'i wneud o ran cefnogi pobl leol drwy heriau'r pandemig.
3. Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai "ddatblygu rhaglen o rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector gwirfoddol, gan weithredu fel gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu cymunedol".
4. Yn nodi'r rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn aml yn ei chwarae o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau, a gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i sicrhau menter gymunedol lwyddiannus.
5. Yn nodi adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir, a ganfu mai cymunedau Cymru yw'r rhai lleiaf grymus ym Mhrydain ac sy'n galw am ad-drefnu sylweddol ym maes polisi cymunedol yng Nghymru.
6. Yn nodi ymhellach adroddiad diweddar Canolfan Cydweithredol Cymru, Tir ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru.
7. Yn nodi nad oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol.
8. Yn credu bod galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig yn allweddol i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach.
9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu gwladwriaeth sy'n galluogi gweithredu cymunedol;
b) edrych i mewn i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru.
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol
Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir
Cyd-gyflwynwyr
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Cefnogwyr
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.49
NDM8032 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad Blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mawrth 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y rhwydwaith trafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 16.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8033 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu nad yw rhwydwaith trafnidiaeth Cymru yn addas i'r diben.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
10 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu bod Llwybr Newydd yn strategaeth drafnidiaeth i Gymru sy’n briodol ar gyfer wynebu’r argyfwng hinsawdd.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid digonol i Gymru fel y gall fuddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
25 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o brosiectau fel HS2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
15 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8033 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
1. Yn credu bod Llwybr Newydd yn strategaeth drafnidiaeth i Gymru sy’n briodol ar gyfer wynebu’r argyfwng hinsawdd.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cyllid digonol i Gymru fel y gall fuddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
3. Yn credu y dylid datganoli seilwaith rheilffyrdd i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o brosiectau fel HS2.
Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
10 |
15 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
9 Cyfnod Pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.11 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.17
Crynodeb o Bleidleisiau
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.22
NDM8030 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Gwahardd o'r ysgol: mwy o niwed nag o les?
Daeth y cyfarfod i ben am 17.44
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2022